Llys y Goron Caernarfon
Mae’r achos yn erbyn gyrrwr sydd wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth pedwar drwy yrru’n beryglus wedi dechrau yn Llys y Goron Caernarfon heddiw.
Mae Gordon Dyche, 24, o Lanbrynmair, wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal.
Fe fu farw gŵr, mam a meibion maeth Denise Griffith, o Bontypridd, ar ôl i’w car blymio i Lyn Clywedog ym mis Ebrill y llynedd.
Roedd Denise Griffith, 55, yn gyrru’r car Peugeot ar y pryd. Fe lwyddodd i ddianc ond fe fethodd y gwasanaethau brys i achub ei gŵr Emyr Glyn Griffith, 66 oed, ei mam Phyllis Iris Hooper, 84 oed, a’i meibion maeth Peter Bricome, 14, a Liam Govier, 14.
Roedd y teulu ar wyliau Pasg pan ddigwyddodd y drasiedi ar yr B4518 ger Argae Bwlch-y-Gle, Llanidloes, ar 20 Ebrill, 2011.
Wrth yrru adref ar ôl treulio’r bore ym Machynlleth roedd Denise Griffith wedi arafu’r car er mwyn cael mwynhau’r olygfa dros y llyn.
Roedd Gordon Dyche yn gyrru car Ford Mondeo a chredir ei fod wedi gwrthdaro â char Denise Griffith gan ei wthio i mewn i’r llyn.
Fe fu Denise Griffith yn rhoi tystiolaeth yn y llys heddiw.