Carwyn Jones - gwrthod 'ar hyn o bryd'
Mae Prif Weinidog Cymru wedi gwrthod cynnig i symud etholiadau’r Cynulliad yn 2015 er mwyn osgoi gwrthdaro gydag etholiadau i senedd San Steffan.

Fe ddywedodd Carwyn Jones mai mater i’r senedd Brydeinig oedd symud ei hetholiadau hi yn hytrach na disgwyl i Gymru newid.

Ond, wrth siarad ar Radio Wales, roedd yna awgrym hefyd bod cyfaddawd yn bosib …. “Dw i ddim o’r farn ar hyn o bryd,” oedd yr union eiriau.

Cynnig Clegg

Roedd yn ymateb i awgrym gan Ddirprwy Brif Weinidog Prydain Nick Clegg y gallai’r Cynulliad ohirio ei etholiadau am flwyddyn.

Mae senedd San Steffan bellach wedi penderfynu cadw at dymor sefydlog o bum mlynedd, sy’n golygu cynnal Etholiad Cyffredinol yn 2015.

Ond gan fod y Cynulliad Cenedlaethol eisoes yn cadw tymor o bedair blynedd o’r dechrau, roedd ei etholiadau yntau wedi eu hen drefnu ar gyfer yr un flwyddyn.

Mae Nick Clegg yn dweud ei fod wedi sgrifennu at Lywydd y Cynulliad, Dafydd Elis-Thomas, yn cynnig y cyfle i ACau symud eu hetholiad o 2015 i 2014 neu 2016.

Fe fyddai’n rhaid i ddwy ran o dair o’r aelodau bleidleisio tros y newid.

Meddai Clegg

“R’yn ni wedi penderfynu mai Cynulliad Cymru a Chynulliad Cymru’n unig a ddylai benderfynu ar ddyddiad yr etholiad nesa’, naill ai flwyddyn cyn y dyddiad yn 2015 neu flwyddyn wedyn.

“Dw i’n gobeithio y bydd hynny’n cael ei groesawu gan bobol yng Nghymru a’r holl bleidiau seneddol. Y bwriad yw dangos ein parch at yr hunaniaeth wleidyddol ar wahân sydd mor gryf yn y Cynulliad Cymreig.”