Prifysgol Aberystwyth - un sy'n denu myfyrwyr tramor
Fe fydd prifysgolion Cymru a gweddill gwledydd Prydain yn colli arian mawr os bydd y Llywodraeth yn cyfyngu ar fisas i fyfyrwyr.
Dyna honiad corff ymchwil ym maes addysg, sy’n cyhuddo’r Llywodraeth o ymosod ar brifysgolion ac o gyflwyno polisi gyda “blas hyll apartheid” arno.
Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi croesawu casgliadau’r adroddiad gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch, sydd wedi ei sgrifennu gan Is-Ganghellor Prifysgol East Anglia, Edward Acton.
Mae nifer o brifysgolion Cymru’n dibynnu ar arian sy’n dod trwy fyfyrwyr tramor ond mae’r Llywodraeth eisiau cyfyngu ar y fisas sydd ar gael i fyfyrwyr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl Undeb y Myfyrwyr, fe allai’r newid gostio biliynau o bunnoedd i’r prifysgolion – yn ôl yr adroddiad, mae’r ffigwr tua £2 biliwn y flwyddyn.
Barn y Llywodraeth
Yn ôl y Gweinidog Mewnfudo, Damian Green, mae gormod yn dod i mewn i wledydd Prydain, mae gormod yn aros yn rhy hir ac mae rhai’n cam-ddefnyddio’r system.
Maen nhw’n bwriadu tynhau’n arbennig ar fisas i fyfyrwyr sy’n dod i wneud cyrsiau eraill cyn mynd i brifysgol.
Barn y myfyrwyr
“Mae myfyrwyr tramor yn rhan hanfodol o’r gymuned ar gampws prifysgol,” meddai Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr trwy wledydd Prydain, Aaron Porter.
“Maen nhw’n dod symiau anferth o arian a gwybodaeth ddiwylliannol gyda nhw a chysylltiadau sy’n helpu graddedigion i weithio mewn economi fyd eang.”