Llys y Goron Caernarfon
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn gosod sticeri ar lys Ynadon a llys y Goron Caernarfon.
Roedd y sticeri yn datgan “Jamie Bevan Carchar Dros yr Iaith”.
Daw’r brotest wedi i Jamie Bevan gael ei garcharu am 35 diwrnod gan Lys Ynadon Merthyr ar 13 Awst am wrthod talu dirwy wedi iddo fod yn derbyn gohebiaeth uniaith Saesneg.
“Targedwyd Llys Ynadon a Llys y Goron yng Nghaernarfon neithiwr er mwyn dangos yn glir ein cefnogaeth i safiad dewr Jamie dros bawb sydd eisiau gwasanaeth Cymraeg gan y llysoedd,” meddai Osian Jones, trefnydd y Gymdeithas yn y gogledd.
“Cyn ei achos fe dderbyniodd Jamie ohebiaeth uniaith Saesneg gan wasanaeth y llysoedd dro ar ôl tro, er iddo ofyn bob tro am ohebiaeth ddwyieithog a derbyn ymddiheuriadau.”
Dywedodd Menna Machreth Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd a Môn Cymdeithas yr Iaith, bod y llysoedd wedi “sarhau” Jamie a’r Gymraeg.
“Mae’r carchar hefyd yn parhau i wneud hynny,” meddai. “Nid oes ffurflenni Cymraeg wedi bod ar gael i Jamie yn ystod ei amser yn y carchar ac er i ni gael addewidion y byddai hynny’n newid dydy’r carchar ddim wedi cymryd y mater o ddifrif chwaith nac yn delio a’r broblem ehangach fod diffyg darpariaeth Gymraeg gan garchardai Cymru.
“Enghraifft yw’r llysoedd a’r carchardai, mae diffyg mewn gwasanaethau Cymraeg ym mhob maes.”