Prif Gwnstabl Mark Polin a'i diwtor Arwel Owen
Mae Prif Gwnstabl Heddlu’r Gogledd wedi  llwyddo yn ei arholiad Tystysgrif Ganolradd mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio’r Gymraeg sydd gyfwerth â TGAU ail iaith.

Bu Mark Polin yn astudio cyfuniad o’r Cwrs Pellach a’r Cwrs Canolradd er mwyn paratoi ar gyfer ei arholiad.

Dyma’r ail arholiad Cymraeg allanol iddo lwyddo ynddi. Y llynedd, llwyddodd i gael rhagoriaeth yn ei arholiad Tystysgrif Sylfaen mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio’r Gymraeg.

Dywedodd Mark Polin y bydd yn parhau i ddatblygu ei sgiliau Cymraeg.

“Rydw i wrth fy modd fy mod wedi pasio arholiad arall a byddaf yn parhau i ddatblygu fy sgiliau Cymraeg.

“Mae llawer o’r diolch i fy nhiwtor Arwel Owen, sy’n gweithio fel Cyfieithydd yn  Uned Iaith Gymraeg yr Heddlu.”

Bydd Mark Polin yn cael cyfle i ddatblygu ac ymarfer ei sgiliau Cymraeg drwy gyfres o wersi sydd eisoes wedi’u trefnu yn ogystal â defnyddio ei sgiliau ieithyddol o ddydd i ddydd.