Yn ôl ffigurau gafodd eu rhyddhau heddiw, mae mwy o bobol yng Nghymru wedi derbyn trawsblaniad organau yn 2011/12 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Yng Nghymru, cafodd 240 o bobl drawsblaniad organau yn 2011/12 o’i gymharu â 203 o lawdriniaethau’r flwyddyn cynt.

Cafwyd 67 o roddwyr organau oedd wedi marw mewn ysbytai yng Nghymru yn 2011/12 – cynnydd o un o 2010/11.

Ond fe ostyngodd  nifer y cyfraniadau gan breswylwyr yng Nghymru o 83 yn 2010/11 i 75 yn 2011/12 oherwydd bod llai o Gymry’n rhoi mewn ysbytai yn Lloegr.

‘Nifer sy’n marw yn rhy uchel’

Mae’r canran o bobol yng Nghymru sydd ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau yn parhau’r un fath â’r llynedd – 31%.

Mae’r adroddiad ar Waed a Thrawsblaniadau’r GIG (NHSBT) hefyd yn dangos fod nifer y bobol yng Nghymru sy’n disgwyl am drawsblaniad wedi disgyn, o 309 yn 2010/11 i 284 yn 2011/12.

Bu farw 41 o bobol wrth ddisgwyl am drawsblaniad yng Nghymru eleni, deg yn llai na’r llynedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru, Dr Chris Jones, “Mae newyddion da i’w gael yn adroddiad yr NHSBT heddiw, fel y cynnydd yn  nifer y trawsblaniadau ar breswylwyr yng Nghymru.

“Mae’r canran o bobol sydd ar Gofrestr Rhoddwyr Organau Cymru yn uwch na’r cyfartaledd Prydeinig, sydd hefyd yn galonogol,” ychwanegodd.

“Ond mae nifer y bobol sy’n marw wrth ddisgwyl am drawsblaniad yng Nghymru yn rhy uchel ac mae’n rhaid i ni barhau i wneud popeth y gallwn ni i gynyddu’r nifer o roddwyr organau.”