Andy Legg
Mae cais i ddirwyn CPD Llanelli i ben wedi’i gyflwyno yn yr Uchel Lys gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Bydd y cais yn mynd gerbron y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol yn Llundain ar 3 Medi.

Mae sawl adroddiad wedi honni fod problemau ariannol wedi bod yn Llanelli ers peth amser.

Ond mae gweinyddwr y clwb, David Jones, wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod wedi derbyn galwad gan gadeirydd y clwb, Nitin Parekn, yn dweud y byddai’r mater wedi ei ddatrys “ymhen 48 awr”.

Proffesiynol

Llanelli, sy’n cael ei rheoli gan gyn-amddiffynnwr Cymru Andy Legg, yw un o glybiau mwyaf llwyddiannus Uwchgynghrair Cymru yn y blynyddoedd diwethaf.

Aeth y clwb yn broffesiynol yn nhymor 2005/06, a’r llynedd, fe enillodd y cochion gwpan Cymru.

Fe ddechreuon nhw’r tymor newydd gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Port Talbot ddydd Sadwrn diwethaf.

Castell-Nedd

Y tymor diwethaf, fe wynebodd Castell-Nedd ddwy cais tebyg, gyda’r ail yn rhoi’r clwb allan o fusnes.

Fe ddaeth y clwb i ben ym mis Mai eleni am nad oedden nhw wedi llwyddo i hawlio trwydded UEFA na thrwydded Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Roedd yr Eryrod yn cynnwys nifer o sêr fel Lee Trundle, Kai Edwards a Chris Jones, yn ogystal â’r hyfforddwr, Kristian O’Leary.