Stephen Crabb - Ysgrifennydd nesaf Cymru?
Mae Ceidwadwr dylanwadol yn Lloegr yn galw am benodi Aelod Seneddol o Gymru yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Mae sibrydion y bydd Cheryl Gillan, a aned yng Nghaerdydd ond sy’n cynrychioli Chesham ac Amersham, yn colli ei swydd pan fydd David Cameron yn ad-drefnu ei gabinet ym mis Medi.
Yn ôl Tim Montgomerie o wefan Conservative Home dylai’r Ceidwadwyr “barhau i ffynnu” yng Nghymru a phenodi “Ysgrifennydd Cymru sy’n 100% Cymreig.”
Mae nifer yn disgwyl i Aelod Seneddol Basingstoke, Maria Miller, gael ei dyrchafu o’r Adran Gwaith a Phensiynau i swydd yn y Cabinet. Cafodd hi ei magu ym Mhenybont-ar-Ogwr ond dywed Tim Montgomerie y byddai ei phenodi hi yn Ysgrifennydd Cymru yn “fistêc” ac y byddai’n well penodi rhywun sy’n “rhydd o’r ymyrraeth o orfod cynrychioli etholaeth yn Lloegr.”
Nicholas Edwards oedd yr Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol diwethaf i gynrychioli etholaeth Gymreig, yn yr 1980au, a dywed Tim Montgomerie mai ei ffefryn ef yw un arall sy’n cynrychioli Sir Benfro – Stephen Crabb o Breseli Penfro.
Enwau posib eraill i gael y swydd petai adrefnu yw Jonathan Evans, AS Gogledd Caerdydd, a David Jones, AS Gorllewin Clwyd.