Trenau Arriva Cymru
Fe fydd gyrwyr trenau yng Nghymru yn cynnal streic 24 awr yn dilyn anghydfod am dal ac amodau gwaith.

Dywedodd cwmni Aslef y bydd 500 o’u haelodau yn Trenau Arriva Cymru yn streicio ar ddydd Llun 28 Chwefror.

Dydyn nhw ddim chwaith yn fodlon gweithio dros eu horiau ar y dirwnod blaenorol.

Roedd gyrwyr y cwmni wedi ystyried streicio ar ddydd gêm agoriadol y Chwe Gwlad rhwng Cymru a Lloegr yng Nghaerdydd, ond roedd tro pedol munud olaf bryd hynny.

Mae disgwyl i’r undeb gyhoeddi rhagor o streiciau yn fuan ar ôl i bleidlais ddangos fod 70% o’u haelodau o blaid streicio, a 80% yn cefnogi ryw fath o weithredu’n diwydiannol.

“Rydyn ni’n gweithredu ar ôl misoedd o drafod sydd heb sicrhau codiad cyflog derbyniol,” meddai llefarydd ar ran Aslef.

“Mae ysgrifennydd cyffredinol yr undeb wedi rhoi gwybod i gyfarwyddwr adnoddau dynol Trenau Arriva Cymru ein bod ni wedi penderfynu streicio.”