Ysbyty Tywysog Philip
Bydd gwrthdystiad yn cael ei chynnal heddiw yn Llanelli i brotestio yn erbyn newidiadau sydd wedi cael eu cynnig ar gyfer Ysbyty Tywysog Philip yn y dref.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda am weld Adran Ddamwain ac Argyfwng yr Ysbyty yn newid i fod yn ganolfan ddamweiniau fyddai’n cael ei harwain gan nyrsys.

Bydd y brotest hefyd yn nodi’r ffaith fod dau weithiwr wedi cael eu saethu gan y fyddin yn Llanelli yn 1911 yn ystod streic gan weithwyr rheilffordd.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dweud y byddai eu cynigion ar gyfer yr Ysbyty yn golygu y byddai Ysbyty Tywysog Philip yn datblygu i fod yn ganolfan arbenigol ar gyfer triniaeth orthopedig a dementia.