Caerdydd: 1             0: Huddersfield

Mi wnaeth tîm pêl-droed Caerdydd sicrhau buddugoliaeth neithiwr ym munudau ola’ eu gêm yn erbyn Huddersfield.

Mark Hudson, capten Caerdydd, wnaeth sgorio’r gôl yn ystod amser ychwanegol sy’n golygu fod ei dîm ar frig y Bencampwriaeth bore ʼma.

Dyma ymweliad cyntaf Huddersfield â Chaerdydd ar ôl iddyn nhw ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth y tymor diwethaf.

Fe chwaraeodd gôl geidwad Caerdydd, David Marshall, yn dda, gan ennill gwobr chwaraewr -y-gêm.

Roedd chwaraewyr Caerdydd yn gwisgo eu crysau coch newydd neithiwr. Mae ʼna dipyn o drafod wedi bod ynglŷn â lliw’r crysau gyda nifer o gefnogwyr y clwb yn anhapus fod yr Adar Gleision yn awr yn gwisgo crysau coch yn ôl dymuniad perchnogion newydd y tîm sy’n dod o Falaysia. Yn y wlad honno, mae’r lliw coch yn cael ei ystyried yn lliw lwcus.