Darlun o un o ffilmiau Gwobr Iris 2012
Mae’r 31 ffilm fydd yn cystadlu am y wobr ryngwladol fwyaf y byd am ffilmiau byrion hoyw a lesbaidd wedi eu cyhoeddi gan drefnwyr yr ŵyl yng Nghaerdydd.

Caiff yr enillydd gyfle i wneud ffilm fer newydd, ag ennill wobr sydd werth rhyw £25,000.

Bydd y ffilmiau i’w gweld yn ystod Gŵyl Gwobr Iris sy’n digwydd rhwng 10 a 14 Hydref yng Nghaerdydd.

“Mae goreuon y goreuon ar restr fer Gwobr Iris unwaith eto eleni,” meddai un o brif drefnwyr yr ŵyl, Berwyn Rowlands.

Dim ond un Cymro sydd wedi gwneud y rhestr fer ers sefydlu’r wobr nôl yn 2007.

Ond yn ôl Berwyn Rowlands, “nid diffyg talent yng Nghymru yw achos hyn, ond yn hytrach diffyg ffilmiau lesbaidd a hoyw o Gymru.”

Bydd trefnwyr yr ŵyl yn penderfynu’n derfynol ar y rheithgor, yn ogystal â chyhoeddi rhaglen gyfan ar gyfer yr ŵyl pum noson, ddiwedd fis Awst.

Arian, cefnogaeth a chymorth

“Mae’n wych o beth gweld ffilmiau ar y rhestr fer o gymaint o wahanol wledydd,” ychwanegodd Berwyn Rowlands.

“Mae ffilmiau o’r Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, Brasil, Israel, Ffrainc, Norwy, Awstralia, Iwerddon, India, Seland Newydd a Sbaen wedi ei gwneud hi i’r rownd derfynol.

“Mae Gwobr Iris wedi ei chydnabod erbyn hyn fel un sy’n cefnogi gwneuthurwyr ffilm ddawnus ledled y byd. Mae’r wobr yn golygu gallu gwneud ffilm fer newydd; mae tair ffilm fer wedi eu cynhyrchu ers i ni lansio yn 2007 a bydd y gwaith o gynhyrchu’r pedwerydd yn cychwyn cyn diwedd y flwyddyn.

“Nid tlws i hel llwch neu dystysgrif yn melynu ar y wal yw Gwobr Iris. Mae’n cynnig yr hyn sydd ei angen ar wneuthurwyr ffilm – arian, cefnogaeth a chymorth,” meddai.

Yr Unol Daleithiau sydd â’r nifer fwyaf o ffilmiau yn y gystadleuaeth – 10 o’r 31 ar y rhestr. Mae hynny’n “dipyn o gamp” yn ôl Berwyn Rowlands.

Mae’r straeon yn cynnwys hanes bachgen sy’n pryderu am weld blew yn ymddangos ar ei gorff, stori gariad sy’n datblygu gyda chymorth camera Polaroid, a hanes noson ddramatig o ryw gyda ‘serial killer’.