Jamie Bevan
Cafodd aelod o Gymdeithas yr Iaith ei ddedfrydu i 35 diwrnod yn y carchar gan ynadon Merthyr Tudful y bore yma am wrthod talu dirwy.

Roedd Jamie Bevan sy’n dod o Ferthyr ac sy’n dad i bedwar o blant, wedi gwrthod talu dirwy ar ôl torri i mewn i swyddfa etholaeth yr Aelod Seneddol Ceidwadol Jonathan Evans yng Nghaerdydd a phaentio sloganau fel protest yn erbyn newidiadau i’r modd mae S4C yn cael ei chyllido.

Dywedodd ei fod am ddefnyddio’r achos i dynnu sylw at ohebiaeth uniaith Saesneg a dderbyniodd gan y llysoedd.

Dylai siaradwr Cymraeg gael y cyfle i gael gwrandawiad cwbl Gymraeg mewn llys meddai, gan fod siaradwyr Cymraeg “dan anfantais enfawr” wrth gyfathrebu gydag ynadon neu farnwr trwy gyfrwng cyfieithydd.

Cafodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams ei hanfon o’r llys am dorri ar draws y gwrandawiad.

Daw’r achos ddiwrnod ar ôl i un o’r ymgyrchwyr iaith a ysbrydolodd sefydlu Cymdeithas yr Iaith farw ddoe yn 91 oed. Talodd Jamie Bevan deyrnged i Eileen Beasley yn ystod yr achos.

Mae’n debygol y bydd Jamie Bevan yn treulio’i gyfnod dan glo yng ngharchar Caerdydd.