Jamie Bevan
Mae Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl i un o’u haelodau gael ei garcharu  y bore ma pan fydd e gerbron ynadon Merthyr Tudful.

Cafodd Jamie Bevan ei erlyn ar ôl i aelodau Cymdeithas yr Iaith dorri i mewn i swyddfa etholaeth yr Aelod Seneddol Ceidwadol  Jonathan Evans yng Nghaerdydd a phaentio sloganau fel protest yn erbyn newidiadau i’r modd mae S4C yn cael ei chyllido.

Mae Jamie Bevan eisoes wedi treulio wythnos yn y carchar o achos y digwyddiad, a dywedodd y bydd yn defnyddio’r achos heddiw i dynnu sylw at ohebiaeth uniaith Saesneg a gafodd gan y llysoedd.

Daw’r achos ddiwrnod ar ôl i un o’r ymgyrchwyr iaith a ysbrydolodd sefydlu Cymdeithas yr Iaith farw ddoe yn 91 oed.

“Byddwn yn talu teyrnged i Eileen Beasley a’i theulu gan addo y byddwn yn dilyn eu hesiampl ac ni fyddwn yn cilio o’r her,” meddai Jamie Bevan.

Dywedodd Jamie Bevan, sy’n dad i bedwar o blant, y dylai siaradwr Cymraeg gael y cyfle i gael gwrandawiad cwbl Gymraeg mewn llys.

“Mae siaradwyr Cymraeg dan anfantais enfawr wrth dderbyn gwrandawiad trwy gyfrwng cyfieithydd gan nad ydy cyfieithydd yn galluogi’r unigolyn i gyfathrebu yn uniongyrchol gyda’r ynadon neu’r barnwr.

“Mae’n sefyllfa hurt yn y Gymru fodern,” ychwanegodd.

Mae’r Aelod Seneddol Llafur Susan Elan Jones a Llywydd Plaid Cymru Jill Evans, wedi mynegi eu cefnogaeth i alwad Jamie Bevan am wasanaeth Cymraeg gan y llysoedd.