Eileen Beasley
Mae’r ddynes a chwaraeodd ran allweddol wrth danio’r frwydr i achub yr iaith Gymraeg wedi marw y bore ma yn 91 oed.

Eileen Beasley oedd un o’r bobol gyntaf i brotestio dros hawliau iaith ac i wneud safiad dros yr hawl i dderbyn gwasanaeth cyhoeddus yn y Gymraeg.

Fe ddaeth hi a’i gŵr, Trefor, yn eiconau ym mrwydr yr iaith yn 1952 pan wrthodon nhw dalu’r dreth gyngor am fod y ffurflen gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli yn uniaith Saesneg.

Fe aeth y beiliaid a’u dodrefn dair gwaith, ac roedd un ar bymtheg o achosion llys.

Ar un adeg, y cyfan oedd ar ôl yn y tŷ oedd gwelyau, bwrdd y gegin a phedair cadair.

Mae Eileen Beasley wedi ei chymharu â Rosa Parks, y ddynes groenddu a dechreuodd y brotest hawliau suful yn yr Unol Daleithiau.

Yn ei ddarlith enwog, Tynged yr Iaith, fe ddefnyddiodd Saunders Lewis frwydr Eileen a Trefor Beasley fel esiampl o’r hyn y gellid ei gyflawni dros y Gymraeg.

Yn fuan wedi hynny fe gafodd Cymdeithas yr Iaith ei sefydlu.

Fe gymerodd y Beasleys rhan flaengar iawn yn yr ymgyrchoedd cynnar a chafodd Trefor Beasley wythnos o garchar am wrthod talu’r dreth gar.

Ym mis Mehefin 2006 cafodd Eileen ei hanrhydeddu mewn seremoni arbennig yn Aberystwyth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.


Stondin yn Eisteddfod Bro Morgannwg
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg eleni codwyd stondin wag er mwyn coffau ei brwydr hi a’i gŵr dros yr iaith Gymraeg.

Trefnwyd yr arddangosfa, a oedd yn cynnwys un cadair, bwrdd a chwech o botiau jam, gan yr awdur a’r ymgyrchydd Angharad Tomos.

Bu ŵyr Trefor ac Eileen Beasley, Dr. Cynog Prys o Brifysgol Bangor, yn traddodi’r hanes llawn mewn darlith ym Mhabell y Cymdeithasau 2 ar faes y Brifwyl ar y dydd Iau.

Fe fu farw Eileen Beasley yn ei chartref yn Henllan Amgoed heddiw.

Y cefndir

Roedd teulu Eileen a Trefor Beasley wedi arfer gorfod aberthu dros beth oedd yn iawn.

Roedd ei hen dad-cu wedi ei daflu allan o’i fferm yn 1868 gan berchenog y tir am bleidleisio i’r Rhyddfrydwyr; a thad Trefor Beasley wedi colli ei swydd yn y pwll glo am arwain streic.

Cafodd Eileen Beasley ei geni i deulu o ffermwyr ger Henllan Amgoed ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Fe hyfforddodd yn athrawes.

Roedd hi’n ddynes dygedig a darllengar, ac wedi mynd i’r coleg ddwywaith (ar ôl i’r Ail Ryfel Byd dorri ar draws ei chyfnod cynta’).

Roedd hi wrth ei bodd â ieithoedd eraill a theithio’r cyfandir, yn enwedig i Ffrainc.

Yn 1953, gwrthododd hi a’i gwr, Trefor Beasley, oedd yn byw yn Llangennech â thalu eu treth cyngor am fod y cais yn uniaith Saesneg gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli.

Fe aed â’u soffa, eu piano, y drych a’r carped. Cymerwyd nifer o anrhegion priodas oddi yno, oedd â gwerth sentimental yn ogystal a gwerth ariannol.


Taflen etholiadol Eileen Beasley
Yn 1957 fe enillodd Eileen Beasley sedd cynghorydd ar Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli, y person cyntaf i’w hethol i’r cyngor lleol yn enw Plaid Cymru.

Yn 1960 fe ddaeth y frwydr i ben a bu’n rhaid i’r cyngor ddarparu papur treth ddwyieithog.

Yn ddiweddarach symudodd y teulu o Sir Gâr i Forgannwg fel bod modd i’w plant gael addysg uwchradd Gymraeg yn ysgol Rhydfelen.

Ar ôl ymddeol, fe symudodd Eileen a Trefor Beasley yn ôl i’w chynefin hi yn Henllan Amgoed. Fe fu farw Trefor Beasley yn 1994.

Parhaodd Eileen Beasley i fynychu’r Eisteddfod yn flynyddol nes i’w hiechyd hi bylu yn ddiweddar.

Yn 1997 cyhoeddodd ddeg o storïau am eu bywyd yn y gyfrol “Yr Eithin Pigog.”

Tynged yr Iaith

Dyma a ddywedodd Saunders Lewis am Eileen a Trefor Beasley yn ei ddarlith Tynged yr Iaith:

“A gaf i alw eich sylw chi at hanes Mr a Mrs Trefor Beasley. Glowr yw Mr Beasley. Yn Ebrill 1952 prynodd ef a’i wraig fwthyn yn Llangennech gerllaw Llanelli, mewn ardal lle y mae naw o bob deg o’i phoblogaeth yn Gymry Cymraeg,” meddai.

“Yn y cyngor gwledig y perthyn Llangennech iddo y mae’r cynghorwyr i gyd yn Gymry Cymraeg: felly hefyd – swyddogion y cyngor.


Y Beasleys
“Gan hynny, pan ddaeth papur hawlio’r dreth leol atynt oddi wrth The Rural District Council of Llanelly anfonodd Mrs Beasley i ofyn am ei gael yn Gymraeg.

“Gwrthodwyd. Gwrthododd hithau dalu’r dreth nes ei gael.

“Gwysiwyd hi a Mr Beasley dros ddwsin o weithiau gerbron llys yr ustusiaid. Mynnodd Mr a Mrs Beasley ddwyn y llys ymlaen yn Gymraeg.

“Tair gwaith bu’r beiliod yn cludo dodrefn o’u ty nhw, a’r dodrefn yn werth llawer mwy na’r dreth a hawlid. Aeth hyn ymlaen am wyth mlynedd.

“Yn 1960 cafodd Mr a Mrs Beasley bapur dwyieithog yn hawlio’r dreth leol oddi wrth Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli, a Chymraeg y bil lawn cystal a’i Saesneg.

“Nid oes gennyf i hawl i ddweud beth a gostiodd hyn oll yn ariannol i Mr a Mrs Beasley. Bu cyfeillion yn lew iawn, gan gynnwys cyfreithwyr a bargyfreithwyr. Aeth eu helynt yn destun sylw gwlad, ar papurau newydd, a’r radio a’r teledu yn boen beunyddiol iddynt.”