Ron Davies
Mae cyn-ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ron Davies, wedi wfftio holiaduron sydd yn honni bod tua hanner poblogaeth de Cymru am gael gwared â’r Cynulliad Cenedlaethol.

Cafodd yr holiaduron sydd wedi eu cyhoeddi ar wefan grŵp Gwir Gymru eu cynnal ym Merthyr Tudful, Caerfyrddin, Abertyleri, Aberhonddu, a sir Bro Morgannwg.

Mae’r canlyniadau yn honni bod bron i 50% o bobol yn y cymoedd am weld y Cynulliad yn cael ei ddirwyn i ben, gyda chynifer â 59% o bobol Aberhonddu o’r un farn.

Dywedodd Nigel Bull, ar ran Gwir Gymru, bod rhwng 50-100 o bobol wedi cael eu holi ym mhob tref, a bod yr arolwg yn agored i “unrhywun dros 18 oed a oedd yn fodlon datgan barn”.

Awgrymodd Ron Davies, sydd bellach yn ddarpar-ymgeisydd Cynulliad dros Blaid Cymru, bod methodoleg Gwir Gymru yn “cwbl wallus”, gan ddweud bod canlyniadau’r pôl yn “anghredadwy”.

“Dydw i heb weld methodoleg Gwir Gymru, ond mae’n annhebyg i unrhyw bôl piniwn y gwn i amdano,” meddai.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 17 Chwefror