Rachel Banner
Mae arweinydd amlycaf yr ymgyrch dros bleidlais ‘Na’ ar Fawrth 3 wedi awgrymu gall eu hymgyrch barhau os yw nifer y pleidleiswyr yn disgyn i lefel “difrifol” o isel.

“Pe bai 40% o’r pleidleiswyr yn bwrw pleidlais, byddai hynny’n dderbyniol”, meddai Rachel Banner, o Gwir Gymru.

“Ond, bydd pethau’n mynd yn anodd (i’r ymgyrch ‘Ie’) os yw’r canran o bobol sydd yn bwrw pleidlais yn syrthio i 30%. Pe bai’r nifer o bleidleiswyr yn disgyn i 25%, byddai hynny’n codi cwestiynau difrifol.

“Wrth gwrs, mae pawb eisiau gweld nifer uchel o bobol yn bwrw eu pleidlais. Byddwn ni ddim yn ystyried beth i’w wneud nesaf tan ar ôl y refferendwm,” meddai.

Ond mae Cyn-ysgrifennydd Cymru, Ron Davies, yn ffyddiog bydd y canlyniad yn ddilys, beth bynnag bydd nifer y pleidleiswyr.

“Nid yw San Steffan wedi gosod lleiafswm ar gyfer nifer y pleidleiswyr. Wrth gwrs, po fwyaf isel yw’r bleidlais, y mwyaf hawdd yw hi i bobol herio ei ddilysrwydd.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 17 Chwefror