Eisteddfod Bro Morgannwg
Mae 125,700 o bobol wedi ymweld â Maes yr Eisteddfod hyd yma, yn ôl ffigyrau’r trefnwyr.

Mae nifer yr ymwelwyr hyd yma yn is nag Eisteddfod Wrecsam y llynedd, ond yn uwch na’r brifwyl yng Nglyn Ebwy yn 2010.

Bydd disgwyl rhwng 15,000 a 20,000 o ymwelwyr ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg heddiw.

Mae’r Eisteddfod wedi gweld tywydd amrywiol iawn eleni. Dim ond 13,126 ymwelodd yn ystod glaw mawr ddydd Mawrth, ond roedd 21,037 yno i fwynhau’r tywydd crasboeth ddoe.

Mae proffwydi’r tywydd yn addo haul braf ar y maes drwy gydol y dydd heddiw.

Nifer yr Ymwelwyr

Blwyddyn Bro Nifer yr Ymwelwyr
1995 Bae Colwyn 167,225
1996 Bro Dinefwr 167,931
1997 Meirion a’r Cyffiniau 173,221
1998 Bro Ogwr 163,321
1999 Môn 161,725
2000 Llanelli 162,047
2001 Dinbych 142,609
2002 Tyddewi 126,751
2003 Maldwyn a’r Gororau 155,390
2004 Casnewydd 147,785
2005 Eryri 157,820
2006 Abertawe 155,437
2007 Yr Wyddgrug 154,944
2008 Caerdydd 156,697
2009 Y Bala 164,689
2010 Glyn Ebwy 136,933
2011 Wrecsam 149,692
2012 Bro Morgannwg 125,700* (hyd yma)