Geraint Thomas
I nodi llwyddiant dau athletwr o Gymru sydd wedi ennill medal aur yn y Gemau, bydd modd cael gafael ar stamp arbennig fel rhan o weithgareddau’r Post Brenhinol.

Bob tro y bydd aelod o dîm Prydain yn ennill medal aur, bydd y Post Brenhinol yn cynhyrchu stamp coffaol ac arno lun o enillydd y fedal.

Caiff yr holl stampiau eu harddangos yn y Senedd, a hyd yn hyn maen nhw’n cynnwys Geraint Thomas, y beiciwr o Gymru, a Tom James, y rhwyfwr.

Dywedodd Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad: “Mae’n gamp aruthrol ennill medalau aur yn y Gemau Olympaidd.


Tom James
“Ond mae Geraint a Tom bellach wedi ennill medalau aur mewn Gemau Olympaidd olynol, sy’n dangos lefel ymrwymiad sy’n ein hysbrydoli ni i gyd.”

Mae blwch post yng Nghaerdydd a blwch post yn Wrecsam eisoes wedi’u paentio’n aur i ddathlu llwyddiannau Geraint Thomas a Tom James yn Llundain.