Eisteddfod Genedlaethol
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud eu bod nhw’n awyddus i sicrhau nad ydi prif Eisteddfodau Cymru yn ymweld â’r un ardaloedd yn fuan ar ôl ei gilydd.

Daw’r sylwadau ar ôl i drefnwyr lleol Eisteddfod yr Urdd ddweud nad ydyn nhw wedi cwrdd â’u targed ar gyfer casglu arian ar gyfer Eisteddfod Abertawe ym mis Mai.

Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld â’r un ardal yn 2006 ac roedd hynny wedi gwneud casglu arian yn anoddach medden nhw.

Yn ôl llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru maen nhw’n gobeithio  “sicrhau nad yw’r un awdurdod lleol yn ysgwyddo’r baich [o gynnal Eisteddfod] yn rhy aml”.

Ychwanegodd bod y cydweithio rhwng yr eisteddfodau “yn dechrau dwyn ffrwyth”.

Maen nhw hefyd yn annog awdurdodau lleol “i ddatgan diddordeb mewn cynnal y naill Eisteddfod neu’r llall o 2017 ymlaen”.

Dywedodd Dr Chris Llewelyn, Cyfarwyddwr Hamdden Llywodraeth Leol Cymru wrth Golwg360 eu bod nhw’n “cyfarfod yn gyson â’r Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd er mwyn cyd-gynllunio taith yr Eisteddfodau ar gyfer y dyfodol gan ystyried blaenoriaethau strategol yr awdurdod lleol, effaith ieithyddol yr ymweliad ar yr ardal, y sefyllfa ariannol a’r gallu i ddod o hyd i safle addas”.

Maen nhw hefyd yn ystyried pa sir fydd yn ariannu’r Sioe Frenhinol y flwyddyn honno, meddai.