Y brotest
Mae Oxfam wedi cynnal protest yng Nghaerdydd heddiw er mwyn galw ar fanciau i ysgwyddo rhagor o’r baich wrth fynd i’r afael â’r argyfwng economaidd.

Roedd y protestwyr y tu allan i gangen Barclays Stryd y Santes Fair, Caerdydd wedi eu gwisgo fel Robin Hood.

Maen nhw wedi bod yn galw am dreth Twm Sion Cati (neu Robin Hood) a fyddai’n golygu bod y banciau yn talu gwerth £20 biliwn yn ôl i’r trysorlys.

Fe fydd y banciau yn talu trethi gwerth tua £25m eleni.

Mae’r brotest yn rhan o ymgyrch fyd-eang sy’n rhoi pwysau ar lywodraethau i gyflwyno trethi newydd ar fanciau a gwario’r arian ar helpu pobol sy’n dioddef yn sgil y trafferthion ariannol.

Bydd protestiadau tebyg yn cael eu cynnal yn Awstralia, Gwlad Belg, Canada a’r Almaen drwy gydol yr wythnos.

‘Teg’

“Mae’n deg bod banciau yn talu eu rhan. Mae’r cyhoedd yn ddig iawn bod banciau sy’n  gamblo wedi peryglu eu heconomïau, a’n bod ni’n talu i glirio’r llanast, “ meddai Chris Johnes, Pennaeth Oxfam Cymru.

“Wrth i ni deimlo effeithiau’r toriadau a’r cynnydd mewn treth, maen nhw’n derbyn biliynau mewn bonysau. Byddai treth Robin Hood yn golygu ein bod ni i gyd yn yr un cwch.

“Mae miliynau o bobl dlawd a digartref yn dioddef yn sgil yr argyfwng economaidd. Byddai Treth Twm Sion Cati yn codi cannoedd ar filiynau o bunnoedd i’w helpu nhw.”