Edwina Hart
Mae’r Gweinidog Iechyd Edwina Hart wedi dweud “nad ydi hi’n gallu cyfiawnhau” rhai o’r problemau gydag amseroedd ymateb ambiwlansiau.

Roedd Aelodau Cynulliad Penrhyn Gŵyr yn ymateb i gwestiynau yn y Senedd heddiw am oedi wrth fynd a chleifion i’r ysbyty.

Dywedodd Lynne Neagle, AC Llafur Torfaen, fod yr oedi yn “annerbyniol”.

“Mae o’n flaenoriaeth ac rydw i’n siomedig iawn nad ydi pobol ar draws Cymru yn cael yr ymateb y maen nhw ei eisiau, nid yn unig yn Nhorfaen,” meddai Edwina Hart.

Ychwanegodd y gweinidog ei bod hi wedi siarad â chadeiryddion byrddau iechyd lleol, yn ogystal â’r gwasanaeth ambiwlans, am y problemau.

Dywedodd fod “amseroedd aros unedau damwain ac argyfwng yn broblem barhaol”.

‘Gwaith gwych’

Roedd yr eira mawr ym mis Rhagfyr wedi golygu nad oedd y gwasanaethau brys wedi methu a chyrraedd eu targedi mewn sawl rhan o Gymru, meddai.

“Roedd parafeddygon wedi gwneud gwaith gwych yn ystod y cyfnod yna,” meddai.

“Ond alla’i ddim cyfiawnhau rhaid o’r problemau yr ydyn ni wedi bod yn eu cael gydag amseroedd ymateb ambiwlansiau.

“Rydyn ni’n parhau i weithio yn galed ar y mater.”