Mae llefarydd Plaid Cymru ar iechyd ac Aelod Cynulliad Ceredigion wedi dweud fod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi gwrando ar lawer o bryderon eu hetholwyr hi, ond heb wrando ar bobol Llanelli.


Mae Bwrdd Iechyd y de-orllewin wedi dechrau ymgynghori’n ffurfiol ar newidiadau, gan gynnwys canoli llawdriniaethau brys yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth a Hwlffordd a defnyddio nyrsys i gynnal canolfan gofal frys leol yn nhref fwyaf y rhanbarth, sef Llanelli.

Dywedodd Elin Jones fod protestiadau Llanelli heb gael eu clywed gan y Bwrdd Iechyd, a dywedodd fod dal angen i ymgyrchwyr o blaid Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth fod yn “effro”  i newidiadau pellach.

“Rwy’n croesawu’r ffaith y bydd adran frys lawn yn parhau ym Mronglais, ond mae dal cwestiynau ynghylch llawdriniaethau brys bob awr o’r dydd a byddaf i’n holi’r Bwrdd Iechyd am hyn,” meddai Elin Jones

“Mae’r pwysau cyllido sydd ar Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn golygu bod newidiadau i ofal iechyd lleol yn anochel dros y misoedd nesaf.

“Er bod addewidion na fydd newidiadau i wasanaethau iechyd lleol yn cael eu cyflwyno tan fod strwythurau’n barod i gymryd eu lle, rwy’n ofni mai fel arall y bydd hi dan y wasgfa bresennol ar gyllido.

“Mae’n rhaid i ni barhau i gyflwyno’r achos o blaid gwasanaethau iechyd yng Ngheredigion fel bod gennym ni wasanaethau hanfodol ac angenrheidiol ar garreg y drws yn y dyfodol.”

Cynlluniau

Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda mae’n rhaid ad-drefnu’r gwasanaethau er mwyn cwrdd â’r heriau sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, gan gynnwys poblogaeth sy’n heneiddio.

Ymhlith y cynlluniau mae creu gwasanaeth dementia newydd yn Ysbyty Tywysog Philip Llanelli, a datblygu canolfan ragoriaeth Orthopedig yn yr un ysbyty.

Cau ysbytai cymunedol Tregaron a’r Mynydd Mawr, Y Tymbl.

Adeiladu canolfan adnoddau cymunedol newydd yn Aberaeron, a chau’r ysbyty yn y dref.

Adnewyddu Ysbyty Aberteifi newydd fel canolfan adnoddau cymunedol

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ymgynghori ar y newidiadau tan 29 Hydref ac yn trefnu cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus  yn y rhanbarth er mwyn hysbysu’r cyhoedd.