Y diweddar Hywel Teifi
Bydd cronfa goffa i un o ysgolheigion mwyaf lliwgar Cymru’n cael ei lansio ar faes yr Eisteddfod brynhawn Gwener.

Prif amcan cronfa goffa Hywel Teifi fydd creu ysgoloriaeth PhD i astudio yn un o’r meysydd ymchwil a fu o ddiddordeb neilltuol iddo:

  • llenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg,
  • byd y glöwr,
  • hanes yr Eisteddfod Genedlaethol,
  • yr iaith Gymraeg,
  • y pentref a’r gymuned,
  • gwleidyddiaeth Cymru, neu
  • chwaraeon, y cyfryngau a’r ddrama yng Nghymru.

Mae bwriad hefyd i sicrhau cofeb barhaol i Hywel Teifi a fydd yn cael ei lleoli mewn man amlwg yn Academi Hywel Teifi, sefydliad a grëwyd gan Brifysgol Abertawe yn 2010 er cof am gyn-Athro Cymraeg y brifysgol.

Wrth groesawu’r penderfyniad i sefydlu cronfa, dywedodd y darlledwr Huw Edwards, mab Hywel Teifi:

‘‘Rydym fel teulu yn falch iawn o’r datblygiad diweddaraf hwn gan Brifysgol Abertawe sy’n adeiladu ar waith a chyfraniad fy nhad ac sy’n goffa teilwng iddo. Gobeithiwn y bydd cefnogaeth gref i’r gronfa ac y daw cyfleoedd newydd i ysgolheigion y dyfodol yn sgîl ei sefydlu.’’

Bydd y derbyniad i lansio’r gronfa ar stondin Prifysgol Abertawe am 12.30 ddydd Gwener.