Canolfan Pontio (o wefan y prosiect)
Mae Prifysgol Bangor wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu ailfeddwl agwedd Canolfan Pontio at yr iaith Gymraeg yn dilyn cyfarfod â Chymdeithas yr Iaith ddoe.

Mae’r ganolfan newydd ddiwylliannol £28 miliwn wedi ei feirniadu am beidio a sicrhau fod digon o’r staff yno’n siarad Cymraeg.

Dyw’r rhan fwyaf o’r swyddi sydd wedi eu hysbysebu ddim yn gofyn am allu’r Gymraeg, a hynny er bod dros 70% o boblogaeth Gwynedd yn siarad yr iaith, meddai’r Gymdeithas.

Ddiwedd y mis diwethaf llwyddodd y Gymdeithas i amharu ar lansiad swyddogol y prosiect gan y Prif Weinidog Carwyn Jones am tua 20 munud.

Roedd arweinydd prosiect Pontio, Fergus Lowe, wedi cyfarfod gyda Cymdeithas yr Iaith ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor ddoe.

Mae’n nhw’n dweud ei fod wedi “ymddiheuro gan ddweud fod camgymeriadau wedi eu gwneud hyd yma gyda’r prosiect”.

Cadarnhaodd y Brifysgol wrth Golwg 360 eu bod nhw’n bwriadu “adolygu’r hyn sydd angen ei wneud er mwyn gwella ymrwymiad y Ganolfan i ddiwylliant, y gymuned a’r Iaith Gymraeg”.

Roedd y cyfarfod yn “adeiladol iawn” ac roedden nhw’n “falch o gael y cyfle i drafod yn agored efo Cymdeithas yr Iaith ac UMCB”.

“Cytunwyd i gyfarfod eto yn y dyfodol, ac yn y cyfamser byddwn yn adolygu hyn sydd angen ei wneud er mwyn gwella ymrwymiad y ganolfan i ddiwylliant, y gymuned a’r iaith Gymraeg,” meddai’r llefarydd.

Swyddi

Dywedodd Menna Machreth, sy’n fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor ac aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg bod y Brifysgol bellach “yn haeddu cyfle” i newied pethau.

“Mae’r myfyrwyr eisiau rhoi cyfle i’r Brifysgol i wneud yn iawn am y camgymeriadau ac wedi galw am ddau beth yn benodol: yn gyntaf, adolygiad llawn o brosiect Pontio er mwyn sicrhau ei lwyddiant yn y gymuned yn y dyfodol ac yn ail, amserlen benodol ar bapur i gyflawni’r nôd o weinyddu Pontio trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai wrth Golwg360.

Fe fydd cyfarfod arall yn cael ei gynnal ym mis Mehefin, a mae aelodau Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor a’r Gymdeithas yn “disgwyl ymateb i’r gofynion hyn” bryd hynny.

“Tair swydd barhaol sydd wedi ei apwyntio hyd yma, a chwe swydd dros dro,” meddai Menna Machreth.

“Gofynnwyd a fydd y swyddi dros dro, pan fyddant yn troi’n barhaol, yn cael eu hail-hysbysebu i fod yn swyddi lle mae’r Gymraeg yn sgil hanfodol, a dywedodd Fergus Lowe y bydd hynny’n digwydd,”  meddai Menna Machreth.

“Gofynnwyd hefyd am y themâu arloesi â’r academyddion a staff di- Gymraeg sy’n arwain y rheiny – swyddi sydd â’r bwriad o gyflwyno ymchwil academaidd i’r gymuned leol – ond atebodd Fergus Lowe mai swyddi dan adain y Brifysgol gyfan oedd y rheiny, nid Pontio; serch hynny, fe fyddwn ni eisiau newid hyn hefyd.

“Yn dilyn y cyfarfod, rydyn ni’n obeithiol y bydd y Brifysgol yn dangos eu hymroddiad at y Gymraeg yn eu gweithredoedd o hyn ymlaen, nid mewn rhethreg yn unig. Rydyn ni’n wirioneddol obeithiol y bydd Pontio yn llwyddiant ysgubol, ond rhaid iddynt gyd-weithio â’r  gymuned leol er mwyn gwneud hynny.”

‘Cam ymlaen’

Dywedodd Mair Rowlands, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, wrth Golwg360 “nad oedd wedi disgwyl ymddiheiriad” gan Fergus Lowe.

”Roeddwn i’n falch bod o wedi ymddiehuro – roedd hynny’n gam ymlaen,” meddai cyn dweud fod y cyfarfod yn un “eithaf adeiladol”.

“Roedden nhw’n gwrando ar beth oedden ni’n ei ddweud… Rydw i’n gobeithio y byddwn nhw’n dysgu o gamgyeriadau’r gorffennol nawr.

“Rhaid disgwyl tan fis Mehefin i gael gweld”.