Chris Bartley
Am 12.10 heddiw bydd y Cymro a aned yn Wrecsam, Chris Bartley, yn anelu am fedal aur yn y pedwarawd ysgafn.  Chris Bartley yw capten y tîm ac mae disgwyl brwydr glos rhyngddyn nhw ac Awstralia am y fedal aur.

Am 12.30 heddiw bydd Victoria Thornley o Wrecsam yn cystadlu yn rownd derfynol yr wythawd. Crafu trwyddo i’r rownd derfynol wnaeth wyth Prydain felly nid yw’r disgwyliadau’n uchel iawn, ond mae medal yn bosibilrwydd.

Mae’r pedwarawd heb lywiwr, sy’n cynnwys Tom James, newydd guro Awstralia yn y rownd gynderfynol. Bydd y fuddugoliaeth honno’n rhoi mantais seicolegol i Brydain dros eu gelynion pennaf cyn y rownd derfynol fore Sadwrn am 10.30.

Pedwarawd Prydain yw’r ffefrynnau ac mae Tom James, a a aned yng Nghaerdydd ac a fagwyd yn Wrecsam, yn anelu am ei ail fedal aur ar ôl ennill yn Beijing bedair blynedd nôl.

Seiclo

Mae Geraint Thomas yn cystadlu yn hwyrach brynhawn yma yn y ras ymlid tîm ar y trac.

Prydain yw un o’r ffefrynnau a bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yfory.