Mae ymgyrchwyr yn erbyn melinau gwynt Maldwyn wedi dweud fod y Cynulliad wedi “agor y drws i ddatblygwyr.”

Neithiwr roedd swyddogion y Grid Cenedlaethol yn y Trallwng er mwyn cwrdd â’r cynghorwyr lleol,  ac roedd rua 200 o ymgyrchwyr yno er mwyn lleisio eu gwrthwynebiad i godi gorsaf drydan yng Nghefn Coch a chludo’r trydan i Loegr ar beilonau.

Dywed Gareth Davies, o fudiad Cadwraeth Ucheldir Powys, nad oedd yn dal dig yn erbyn y Grid Cenedlaethol gan mai eu dyletswydd nhw oedd prosesu’r trydan, ac na fyddai trydan oni bai am fodolaeth y melinau gwynt.

Ond dywedodd fod y Cynulliad ar fai am ddynodi ardaloedd megis ucheldir Powys ar gyfer datblygiadau ynni gwynt – ardaloedd TAN 8.

“Y TAN8 sydd wedi tynnu sylw’r datblygwyr a’u denu nhw yma i Bowys,” meddai Gareth Davies o Gefn Coch.

Mae Alison Davies, Cadeirydd Cadwraeth Ucheldir Powys, hefyd yn feirniadol hefyd o bolisi TAN8.

“Pwy oedd y Gweinidog Amgylchedd pan gafodd y TAN8 eu cyflwyno ond Carwyn Jones.

“Roedden ni wedi gobeithio y byddai Cynulliad Cymru wedi edrych ar ôl buddiannau Cymru yn well na San Steffan, ond nid felly mae wedi bod.

“Mae ceisiadau yn cael eu hystyried nawr ar gyfer codi 815 o dyrbeini gwynt yng ngogledd Powys. Mae’r mwyafrif ohonyn nhw ar dir y Comisiwn Coedwigaeth, a phwy sy’n rheoli’r Comisiwn ond y Cynulliad.”

Effaith ar y Gymraeg

Dywed Gareth Davies fod pobol yn dewis byw ym Maldwyn o achos y tirwedd, ac y byddai nifer yn ystyried symud o’r ardal os bydd y “diwydiannu” yn parhau.

“Does dim cyfleusterau gyda ni yma ond mae gyda ni harddwch a llonyddwch. Os byddwn ni’n colli hynna yna fydd dim diben i lawer o bobol aros yma.”

Yn y cyfarfod neithiwr siaradodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander yn Gymraeg gyda swyddogion y Grid Cenedlaethol ond nid oedd un o’r swyddogion yn medru’r Gymraeg. Mewn ateb i gwestiwn dywedodd y swyddogion nad oedden nhw wedi ystyried effaith yr orsaf drydan a’r peilonau ar yr iaith Gymraeg.

Y bore ‘ma ar BBC Radio Cymru dywedodd Aelod Seneddol Maldwyn, Glyn Davies, nad yw’r Grid Cenedlaethol yn “ deall bod pobol yn dal i siarad Cymraeg yma.”