Y Sioe Frenhinol
Mae’r Sioe Frenhinol wedi torri bob record am nifer yr ymwelwyr eleni, gan ddenu 241,099 o bobol dros gyfnod o bedwar diwrnod.

Roedd hynny ychydig yn uwch na’r 240,140 oedd wedi ymweld yn 2006.

Roedd nifer yr ymwelwyr yn cynnwys 777 a ddaeth o 39 gwlad ledled y byd i faes y sioe yn Llanelwedd, Powys.

Manteisiodd y sioe o lygedyn o dywydd poeth ar ôl tri mis o law di baid yng Nghymru.

Dywedodd y trefnwyr ei bod hi’n amlwg o’r diwrnod cyntaf y byddai’r sioe yn llwyddiant y flwyddyn honno. Denwyd 54,246 drwy’r giatiau ar y dydd Llun, y mwyaf ar y diwrnod cyntaf ers 2006.

Daeth 65,807 ar y Dydd Mawrth, 70,125 ar y Dydd Mercher, a 50,921 ar y Dydd Iau.

Dywedodd Prif Weithredwr y Sioe Frenhinol, David Walters, bod y pedwar diwrnod wedi mynd heibio yn arbennig o ddiffwdan eleni.

Ychwanegodd cadeirydd Cyngor y Sioe, Alun Evans, bod pobol wedi ymweld am eu bod nhw eisiau bod y rhan o lwyddiant y sioe.

“Mae’r sioe yma ac fe fydd yn parhau i dyfu yn y dyfodol,” meddai.