Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cyfarfod â busnesau o ardal Wrecsam fore Iau, er mwyn ceisio meithrin cysylltiad rhwng y Brifwyl a’r economi leol.

 Mae’r digwyddiad wedi ei drefnu ar y cyd rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, Bwrdd yr Iaith a Siambr Fasnach Gogledd Cymru, gyda’r bwriad o ddangos i gwmnïau lleol sut i “fod yn rhan o’r £6-£8 miliwn o effaith a gaiff y Brifwyl ar yr economi yn ystod yr wythnos.”

 Mae’r 60 o lefydd ar gyfer y brecwast busnes eisioes wedi eu llenwi, yn ôl yr Eisteddfod.

Hyrwyddo iaith a busnes

“Bydd cymysgedd o fusnesau’n bresennol,” meddai Pennaeth Cyfathrebu yr Eisteddfod, Gwenllian Carr, wrth Golwg 360.

“Mae pecyn busnes a gwybodaeth gefndirol eisioes wedi ei anfon at y busnesau,” meddai, ac ychwanegu bod y brecwast hefyd “yn gyfle i fusnesau ddysgu mwy am yr Eisteddfod.”

“Mae ymweliad yr Eisteddfod yn gyfle ardderchog i fusnesau fynd ati i edrych ar sut y gallant ddefnyddio rhagor o Gymraeg,” meddai’r Eisteddfod, gan nodi’r 150,000-160,000 o ymwelwyr disgwyliedig a ddaw i ardal Wrecsam rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst eleni.

Cytundebau i bobl lleol

Mae’r Eisteddfod wedi bod mewn cysylltiad â masnachwyr i drafod cytundebau ar gyfer yr Eisteddfod cyn hyn, yn ôl Gwenllian Carr.

“Roedd ’na ddigwyddiad cyn y Nadolig i drafod cytundebau am waith at gynnal yr Eisteddfod,” meddai.

“Rydyn ni’n ceisio cadw pethau’n lleol,” meddai, er yn cyfaddef bod yn rhaid i bris fod yn ystyriaeth.

“Mae’r gwaith argraffu a chrysau wedi mynd i gwmni yn y dalgylch ers mis Hydref”

Talcen caled

Roedd ymgyrch tebyg wedi bod ar waith yng Nglyn Ebwy y llynedd er mwyn ceisio cynnwys masnachwyr lleol yn niwydiant yr Eisteddfod, ond bu nifer o fusnesau yn cwyno wrth Golwg 360 y llynedd fod pethau wedi bod yn dawel yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Gofynodd Golwg 360 i Bennaeth Cyfathrebu yr Eisteddfod a oedd yr ymateb hyn yng Nglyn Ebwy wedi llywio’r cynllun ar gyfer Eisteddfod 2011.

“Mae pob ardal yn wahanol,” meddai.

“Mae gan Wrecsam gysylltiad agos â gweddill gogledd Cymru yn barod, gyda nifer yn ystyried Wrecsam fel prif ganolfan siopa’r gogledd.”

Dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ei fod yn edrych ymlaen at gyd-weithio â masnachwyr ardal y brifwyl yn Wrecsam.

“Mae’r Eisteddfod yn gyfle i ddathlu diwylliant Cymru, a rydym ni fel Bwrdd yn awyddus i helpu cwmnïau ar draws y dalgylch i ddarparu croeso Cymreig a Chymraeg i Eisteddfodwyr”