Denodd y Sioe Frenhinol fwy o bobol eleni nag y gwnaeth erioed o’r blaen.

Erbyn 2 o’r gloch roedd 50,786 wedi dod trwy’r clwydi heddiw, gan godi’r ffigwr ar gyfer yr wythnos i  240,478 –  dros 300 yn fwy na’r record flaenorol yn 2006.

Mae nifer y dorf wedi bod yn gyson uchel wythnos yma er bod y tywydd braf prin wedi golygu bod rhai ffermwyr wedi penderfynu aros adre i weithio ar y cynhaeaf gwair.

Yr Orymdaith Fawr o’r holl enillwyr oedd un o’r prif atyniadau yn y Sioe heddiw.