Mae’r dyn sy’n gyfrifol am gerflun anferth o ddraig ger Wrecsam wedi son am ei gynlluniau i ddewis y cerrig o chwareli Gogledd Cymru, a hynny o fewn yr wythnosau nesaf

“Fe fydden ni’n chwilio am 11 o gerrig o Gymru rhwng naw a 12 troedfedd o uchder fydd yn creu Coeden y Mabinogi o amgylch y cerflun,” meddai Simon Wingett.

“Y bwriad yw creu teimlad theatrig, ddramatig,” meddai cyn son ei bod yn bosibl y bydd y BBC yn “ffilmio rhaglen ddogfen” ar y broses o adeiladu’r ddraig fawr.

Fe gafodd ei gais i adeiladu draig efydd 25 metr o uchder, a fydd yn sefyll ar dŵr 40 metr o uchder ger y Waun, ei dderbyn 7 Chwefror.

Eisoes, mae Simon Wingett wedi dweud ei fod eisiau dechrau’r gwaith adeiladu cyn i’r Eisteddfod Genedlaethol agor yn ardal Wrecsam eleni.

Eisteddfod

Heddiw,  fe ddywedodd wrth Golwg360  ei fod yn bwriadu ceisio cyd-weithio â’r Eisteddfod i ehangu ymwybyddiaeth o’r cerflun.

Bydd y brifwyl ym mis Awst yn cael ei chynnal nid nepell o’r safle y bydd y ddraig yn cael ei adeiladu arno.

“Mae’r Eisteddfod yn byw ac anadlu diwylliant a threftadaeth Cymru – pa well lle,” meddai.

Roedd Simon Wingett wedi gobeithio y byddai’r ddraig wedi ei chodi cyn y pafiliwn pinc – ond ar ôl oedi wrth gael caniatâd cynllunio mae o bellach yn gobeithio y bydd y ddraig yn ei lle erbyn Gemau Olympaidd 2012.

‘Codi proffil Cymru’

“Mae’r prosiect hwn ynglŷn â chodi proffil Cymru o amgylch y byd.. Dyma beth ’dw i’n trio’i wneud o’m cegin fach yng Ngogledd Cymru,” meddai’r dyn busnes.

Fe fydd yn trin y prosiect “fel busnes,”  meddai gan nad oedd yn llwyddiannus yn ei gais am arian loteri am “nad oedd yn ffitio’r categorïau.”

“Y cam olaf un fydd trio am grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru,” meddai cyn dweud ei fod “angen i bobl Cymru gredu yn y cynllun”.

Roedd yn credu bod  y “mwyafrif yn cefnogi’r cynllun”.