Alun Ffred Jones
Mae Plaid Cymru wedi galw ar y Dirprwy Weinidog dros Faterion Gwledig a Chynlluniau Ewropeaidd i ail-ystyried ei feini prawf ar gyfer arian Ewropeaidd.

MaeLlefarydd Plaid Cymru ar yr Economi, Alun Ffred Jones, wedi codi pryderon am benderfyniad Alun Davies i osod rhagdybiaeth yn erbyn rhai cynlluniau wrth ddyrannu arian Ewropeaidd.

Roedd y Dirprwy Weinidog yn cyflwyno gwobrau i gynlluniau amgylcheddol yn y Sioe Frenhinol na fyddai’n gymwys i dderbyn arian yn y dyfodol, meddai Alun Ffred Jones.

Dywedodd na fyddai rhai prosiectau yn y Gymru wledig yn addas i dderbyn nawdd yn y dyfodol.

“Hoffwn longyfarch y rheini a dderbyniodd wobr gan y Dirprwy Weinidog yn y Sioe Frenhinol ddoe megis cynlluniau Tŷ Hyll a Thŷ Te Cadair,” meddai Alun Ffred Jones.

“Mae’r cynlluniau yma, sydd wedi eu noddi drwy’r Cyngor Cefn Gwlad a Pharc Cenedlaethol Eryri ynghyd ag arian Ewropeaidd, wedi rhoi hwb i’r economi leol a chynnig profiad pwysig i’r rheini sydd wedi gweithio yno.

“Ond ers datganiad y Dirprwy Weinidog ar yr 8fed o Fai y byddai’n gosod rhagdybiaeth yn erbyn ariannu’r fath rhaglenni yn y dyfodol, mae cryn bryder ynglŷn â chynlluniau tebyg.

“Mae’r rhaglenni yma yn cynnig llawer i’r economi a’r bobl leol hyd yn oed os nad ydynt yn cwrdd â delfryd y Dirprwy Weinidog.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle i alw ar Alun Davies i ailystyried y rhagdybiaeth y mae wedi ei osod yn erbyn prosiectau amgylcheddol, hanesyddol a diwylliannol er mwyn sicrhau dyfodol i gynlluniau tebyg i’r rhai a dderbyniodd wobr ganddo yn y Sioe ddoe.”