Mae ymgyrchydd Gwir Gymru wedi beirniadu fideo lle mae sêr rygbi blaenllaw Cymru yn galw am bleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm ar 3 Mawrth.

Mae Nigel Bull, ymgyrchydd Gwir Gymru dros bleidlais ‘Na’ wedi dweud wrth Golwg360 heddiw fod Roger Lewis, cadeirydd yr Ymgyrch Ie a Phrif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru fel “ci yn llyfu’r llaw sy’n bwydo drops siocled iddyn nhw”.

“Mae’n annheg eu bod nhw’n datgan ochr wleidyddol pan mae Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi arian iddyn nhw,” meddai Nigel Bull wrth Golwg360 wrth egluro fod yr Undeb Rygbi yn derbyn “miliynau mewn grantiau”  gan y Llywodraeth.

“Mae ganddyn nhw (WRU) ddiddordeb ariannol. Mae dweud bod dim tueddiad gyda nhw’n chwerthinllyd. Mae rheswm economaidd ganddyn nhw dros bleidleisio ie.”

Daw hyn wedi i Shane Williams, Mike Phillips, Alun-Wyn Jones a hyfforddwr y blaenwyr, Robin McBryde, daflu eu pwysau y tu ôl i’r ymgyrch am ragor o bwerau deddfu i’r Cynulliad mewn fideo dwyieithog.

‘Tanseilio deallusrwydd’

Fe ddywedodd hefyd ei fod yn credu bod y fideo yn “tanseilio deallusrwydd pobl Cymru” ac nad yw’n credu y bydd yn “gwneud  bron ddim gwahaniaeth” i ochr y bleidlais ie.

“Pan mae pobl yn deall bod diddordeb ariannol (financial interest) ganddyn nhw – fe wna’ nhw sylwi beth maen nhw’ wedi’i wneud ac fe fydd hynny’n tanseilio hygrededd y chwaraewyr hefyd.

“…Mae dweud ui bod nhw’n Gymry angerddol yn sarhad pan maen nhw’n leinio’u pocedi,” meddai.

Yn ôl Nigel Bull, mae’r ochr ‘na’ yn cael llawer iawn o gefnogaeth ar hyn o bryd.

“Ym Mhontypridd ddydd Mercher diwethaf – allan o 200 o bobl nes i siarad gyda nhw – dau yn unig oedd yn mynd i bleidleisio ie,”  meddai.