‘Dim cystadleuaeth’ rhwng mudiad iaith newydd a CyI

Diweddarwyd am  


Mae mudiad newydd Dyfodol i’r Iaith wedi gwadu y bydd hi’n cystadlu gyda Chymdeithas yr Iaith, er y bydd hi’n annog pobol i ymaelodi ac i lobïo o blaid y Gymraeg.

Dywedodd aelod o bwyllgor llywio Dyfodol i’r Iaith fod “gwagle” yn bodoli ar gyfer mudiad newydd a fydd yn dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru “trwy ffyrdd cyfansoddiadol”.

“Mae rhai pobol yn teimlo na allan nhw ymuno gyda Chymdeithas yr Iaith o achos eu bod nhw’n torri’r gyfraith,” meddai Elin Wyn o Dyfodol i’r Iaith.

“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud gwaith da ond mae ‘na le ar gyfer mwy nag un mudiad, fel sydd yna yn y maes amgylcheddol gyda Greenpeace a Chyfeillion y Ddaear.

“Ein hanfod ni fydd lobïo, creu syniadau, a gwneud yn siŵr fod y Llywodraeth yn cadw at ei strategaeth iaith.”

Dywedodd mai gweithgaredd gyntaf Dyfodol i’r Iaith fydd ymateb i ymgynghoriad Comisiynydd y Gymraeg ar safonau iaith newydd y mae disgwyl i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â nhw.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud eu bod nhw’n “edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gyda’r mudiad iaith newydd.”

“Gobeithio y bydd y mudiad newydd yn ymuno â’r rhwydwaith o fudiadau iaith sydd eisoes ar waith – Mudiadau Dathlu’r Gymraeg. Mae’r grŵp ymbarél yna wedi sefydlu Grŵp Trawsbleidiol dros y Gymraeg yn y Cynulliad eleni ac yn gwneud gwaith ardderchog yn pwyso ar wleidyddion y gallai unrhyw fudiad newydd ychwanegu ato,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

Cefnogaeth gan bobol adnabyddus

Ym mis Ionawr galwodd yr academydd Simon Brooks am “grŵp cyfansoddiadol a fydd yn rhoi’r iaith wrth galon y wladwriaeth Gymreig,” ac mae yntau hefyd ar fwrdd llywio Dyfodol i’r Iaith.

Mae’r mudiad eisoes wedi denu cefnogaeth gan unigolion amlwg megis Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, yr Athro Richard Wyn Jones, y cyn Aelodau Seneddol Cynog Dafis ac Adam Price, yr hanesydd Hywel Williams a’r ddarlledwraig Angharad Mair.

Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol bydd Angharad Mair yn cadeirio cyfarfod cyhoeddus cyntaf Dyfodol, a gynhelir am 4 o’r gloch brynhawn dydd Mercher yr Eisteddfod.

Dywed Dyfodol i’r Iaith y bydd ganddyn nhw stondin ar faes yr Eisteddfod a’u bod nhw’n gwahodd pobol “sy’n caru’r iaith Gymraeg” i ymuno gyda nhw. Maen nhw’n bwriadu cyflogi “staff proffesiynol” er mwyn gweithredu rhaglen waith y mudiad.

Fis diwethaf cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith eu bod nhw’n creu uned lobïo newydd, Uned Cyswllt i’r Cynulliad, er mwyn adeiladu ar waith ymgyrchu’r mudiad yn y Cynulliad, ac am gyflogi aelod o staff i arwain y gwaith ar ddechrau tymor nesaf y Cynulliad.  Daeth y cyhoeddiad yn dilyn galwad Simon Brooks a sylwebyddion eraill am ffurfio grŵp lobio cyfansoddiadol newydd.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn