Mi wnaeth cefnogwyr dau dîm pêl-droed o Gymru ymladd â’i gilydd ar gae rasio Newbury yn Berkshire ddoe.

Bu cefnogwyr Abertawe a Chaerdydd yn ymladd am chwarter awr yn ystod Gŵyl Haf Newbury. Mi gafodd tri o bobl eu harestio.

Dywedodd Prif Weithredwr y cae rasio, Stephen Higgins, fod o amgylch 30 o bobl yn rhan o’r digwyddiad.

“Does gennym ni ddim syniad pam y dechreuon nhw ymladd,” meddai.

Dywedodd un ymwelydd â’r rasys, Julie Davies, fod y digwyddiad yn warth. “Fyddai ddim yn dod yma eto,” meddai wrth y Racing Post.