Theo Huckle
Mae’r gwr sy’n brif ymgynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru wedi beirniadu penderfyniad i godi hyd at £1,200 ar y bobl sydd eisiau dwyn achos gerbron tribiwnlysoedd cyflogaeth.

Ar hyn o bryd does dim tâl am hyn ac mae’r Cwnsler Cyffredinol, Theo Huckle CyF yn dweud y bydd newid y drefn yn rhwystro llawer rhag dod ag achosion dilys gerbron.

Cyhoeddodd Gweinidog Cyfiawnder Llywodraeth San Steffan, Jonathan Djangoly dydd Gwener y bydd y ffioedd newydd yn cael eu codi – penderfyniad sydd wedi cael ei alw yn “warthus” gan yr undebau llafur.

Mewn cyfweliad efo’r BBC dywedodd Mr Huckle “Mae mynediad at gyfiawnder i bob dinesydd, hyd yn oed os yw eu hachsion yn amhoblogaidd neu beidio, yn rhan annatod o sustem ddemocrataidd y DU. Mae’r penderfyniad yma yn tanseilio’r egwyddor yna.

“Mae’r broses o fynd at lys cyfreithiol neu dribiwnlys yn anghynnes i’r mwyafrif o bobl. Mae meddwl gwneud hynny heb gefnogaeth gyfreithiol yn eithriadol o annymunol.”

“Does dim amheuaeth y bydd gorfod talu ffioedd sylweddol o flaen llaw yn rhwystro nifer o bobl sydd achosion dilys, ac fe fyddan nhw felly yn methu â chael cyfiawnder.”

Mae Mr Djangoly ar y llaw arall yn mynnu nad yw’n deg gofyn i’r trethdalwyr dalu’r bil cyfan o £84m am yr achosion yma ac mae’n annog pobl i chwilio am ffyrdd eraill fel cymodi i ddatrys anghydfod.