Prifysgol Rhydychen
Bydd cannoedd o fyfyrwyr mwyaf llewyrchus ond difreintiedig Prydain yn derbyn ysgoloriaethau i fynychu Rhydychen ar ôl i’r brifysgol dderbyn cyfraniad o £75 miliwn gan gyn-fyfyriwr.

Rhoddwyd yr arian gan y dyn busnes a’r cyn-newyddiadurwr Michael Moritz, sydd o Gaerdydd yn wreiddiol, a’i wraig – y nofelydd Harriet Heyman.

Cyhoeddodd Prifysgol Rhydychen y byddai’r arian yn cael ei fuddsoddi mewn rhaglen ysgoloriaeth newydd werth £300 miliwn er mwyn cefnogi myfyrwyr sydd yn dod o deuluoedd sydd â’r incwm lleiaf.

Mae ffïoedd dysgu yn Lloegr wedi treblu hyd at £9,000 y flwyddyn gan achosi rhai teuluoedd difreintiedig i beidio â gyrru eu plant i’r prifysgolion gorau.

Rhodd mwyaf

Dywedodd Michael Moritz, a fu’n ohebydd i’r cylchgrawn ‘Time’, nad oedd “rhwystr ariannol” bellach rhwng unrhyw darpar fyfyrwyr â Phrifysgol Rhydychen.

Dywedodd Rhydychen mai hwn oedd y rhodd “mwyaf dyngarol i gynorthwyo myfyrwyr israddedig yn ariannol mewn hanes Ewropeaidd.”

Yn ôl Michael Moritz, y rheswm personol tu ôl i’r rhodd-daliad oedd y ffaith iddo fynychu “ysgol gyfun gyffredin” yng Nghaerdydd, ac mai ef oedd yr unig ddisgybl o’i flwyddyn i fynd i Rydychen.