Mae nifer o sêr rygbi blaenllaw Cymru wedi galw am bleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm ar 3 Mawrth.

Mae Shane Williams, Mike Phillips, Alun-Wyn Jones a hyfforddwr y blaenwyr, Robin McBryde, wedi taflu eu pwysau y tu ôl i’r ymgyrch am ragor o bwerau deddfu i’r Cynulliad mewn fideo dwyieithog.

“Rydw i’n falch o gael chwarae dros fy ngwlad, ac rydw i eisiau gwlad sydd â Chynulliad sydd â’r gallu i wneud ei waith,” meddai Shane Williams.

“Rydw i’n credu y dylai cyfreithiau sy’n effeithio ar Gymru yn unig gael eu gwneud yng Nghymru.”

“Mewn rygbi mae cryfder a phenderfyniadau cyflym yn bwysig,” ebe Robin McBryde. “Ac mae angen penderfyniadau cyflym arnom ni yn ein bywydau o ddydd i ddydd.

“Cofiwch, Mawrth y 3ydd, ‘Ie’ dros Gymru. C’mon Cymru!”