Mae’r gwasanaeth tân wedi cael ei alw i Gei Bach ger Cei Newydd yn dilyn tân ar dir bwthyn am tua 3.30pm heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân Gorllewin a Chanolbarth Cymru fod dwy injan dân- un o Gei Newydd a’r llall o Aberaeron – ar y safle ar ôl i garej a charafán fynd ar dân.

Does neb wedi’i anafu yn y digwyddiad ac mae’r Gwasanaeth Tân yn parhau i weithio ar y safle.