AC yn gadael Twitter yn dilyn sylwadau

Diweddarwyd am  


Bethan Jenkins AC
Mae un o’r Aelodau Cynulliad mwyaf cynhyrchiol ar wefan Twitter wedi dweud ei bod hi’n rhoi’r gorau i drydar.

Y bore ma dywedodd Bethan Jenkins, Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru, ei bod hi’n gadael y wefan flogio.

“Yn gadael twitter. Dwi wedi cael fy nghyhuddo o ddadsefydlogi proses heddwch gogledd gwerddon yn fy sylwadau ar mcguinness yn cwrdd â’r frenhines” meddai Bethan Jenkins ar ei chyfrif Twitter.

Mae erthygl yn y Western Mail heddiw’n adrodd ei bod hi wedi trydar bod Martin McGuinness o Sinn Féin yn “naïf iawn” am fwriadu ysgwyd llaw’r Frenhines pan fydd hi’n ymweld â Gogledd Iwerddon ddydd Mercher. Mae’r papur yn dyfynnu Vernon Coaker AS, llefarydd Llafur ar Ogledd Iwerddon, a ddywedodd fod sylwadau Bethan Jenkins yn “beryglus ac anghyfrifol.”

Ymateb Bethan Jenkins

Mewn ymateb i Golwg360 dywedodd Bethan Jenkins ei bod hi’n “gadael Twitter am y tro gan nad yw e rhagor yn fforwm ar gyfer cyfathrebu gonest, personol ag etholwyr.”

“Yn hytrach, mae’n cael ei ddefnyddio fel arf yn nwylo gwrthwynebwyr gwleidyddol nad sydd ag unrhywbeth i gynnig i etholwyr.

“Mae’n drist, ond ni fyddaf yn caniatáu i bethau fel hyn dynnu sylw oddi fy ngwaith fel AC, nac amharu ar y gwaith da mae Plaid Cymru yn ei wneud ar ran cymunedau Cymru.”

Dywedodd llefarydd o Blaid Cymru wrth Golwg360 fod sylwadau Bethan Jenkins ar y cyfarfod rhwng Martin McGuinness a’r Frenhines yn rhai personol a ddim yn adlewyrchu safbwynt Plaid Cymru.

Mae Bethan Jenkins wedi ychwanegu’r bore ma ei bod hi’n ferch i Wyddeles a fu’n byw’r trwy’r trafferthion yn Iwerddon a’i bod hi’n “hollol wrthwynebus” i drais.

Bethan Jenkins fydd gwestai’r golofn Twitter yn rhifyn nesaf cylchgrawn Golwg, ddydd Iau yma.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

1988-2018 Cylchgrawn Golwg yn 30 oed