Christine James yn cael ei choroni yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005
Christine James, uwch-ddarlithydd yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, sydd wedi cael ei henwebu fel Archdderwydd i ddilyn Jim Parc Nest.

Wrth annerch Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau prynhawn ʼma cyhoeddodd yr Archdderwydd Jim Parc Nest mai un enwebiad yn unig sydd wedi’i dderbyn i weithredu fel Archdderwydd am y cyfnod 2013-16.

“Yn unol â threfniannau Gorsedd y Beirdd, gwahoddwyd enwebiadau ar gyfer swydd yr Archdderwydd, ac erbyn y dyddiad cau, roedd y Cofiadur wedi derbyn un enwebiad, “ meddai.

“Er bod rhaid i gyfarfod blynyddol yr Orsedd gadarnhau’r enwebiad hwn yn y cyfarfod yn ystod yr Eisteddfod eleni, rwyf am gyhoeddi, a hynny’n hapus iawn, mai enw Christine James, o Gaerdydd, fydd yn mynd gerbron y cyfarfod blynyddol ym Mro Morgannwg.

“Christine James yw’r ferch gyntaf i gael ei henwebu fel Archdderwydd, ac mae’n braf iawn cael cyhoeddi hynny yma heddiw.  Christine hefyd yw’r ddysgwraig gyntaf i gael ei henwebu i’r swydd, ac mae hyn hefyd yn destun llawenhau i ni fel cenedl.

“Llongyfarchiadau mawr i Christine ar ei henwebiad, a mawr obeithiaf y bydd hi’n eich annerch chi o’r Maen Llog yn Seremoni’r Cyhoeddi’r flwyddyn nesaf.”

Dywedodd Mererid Hopwood, y ferch gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a hynny yn Ninbych yn 2001, ei bod hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad.

“ Llongyfarchiadau mawr i Christine, mae’n newyddion ardderchog,” meddai.

“Yn sicr, fe fydd yr Orsedd mewn dwylo da.”

Yn wreiddiol o Donypandy yng Nghwm Rhondda, magwyd Christine James ar aelwyd uniaith Saesneg, ac fe ddysgodd y Gymraeg fel ail iaith tra’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth, cyn mynd ymlaen i ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n briod â Wyn James ac yn fam i Eleri, Emyr ac Owain, ac yn fam-gu newydd sbon i Trystan Marc.

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005 am ei chasgliad o gerddi, Lluniau Lliw, a ysbrydolwyd gan rai o weithiau celf fwyaf adnabyddus Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Disgrifiwyd ei gwaith fel “casgliad o farddoniaeth caboledig a chyffrous,” gan y beirniad, Derec Llwyd Morgan, wrth draddodi’r feirniadaeth.

Bu hefyd ymhlith enillwyr y gystadleuaeth farddoniaeth ryngwladol Féile Filíochta ar sawl achlysur, ac roedd yn fardd gwadd Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008. Fe’i derbyniwyd i’r Orsedd yn 2002, ac mae’n aelod o Fwrdd yr Orsedd er 2010.

Daw cyfnod yr Archdderwydd presennol i ben ar ddiwedd Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, ac fe fydd yr Archdderwydd newydd yn ymgymryd â’i dyletswyddau yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2014 ym Mehefin 2013.