Leanne Wood
Mae Aelod Cynulliad wedi galw am rewi cyflogau penaethiaid prifysgolion ar ôl i ffigyrau newydd awgrymu eu bod nhw’n derbyn cyflogau anferth sy’n dal i dyfu er gwaetha’r toriadau llym i’r sector gyhoeddus.

Yn ôl AC Canol De Cymru, Leanne Wood, mae cyflog  Dr David Grant, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, wedi cynyddu £45,000 ers 2006.

Cafodd ei dalu £245,000 yn 2010, yn ôl y ffigyrau. Mae hynny dros £100,000 yn fwy na’r Prif Weinidog, David Cameron.

Dyblodd ei bensiwn o £19,000 i £38,000 dros yr un cyfnod, yn ôl yr ymchwil.

Roedd saith o staff Prifysgol Caerdydd wedi derbyn cyflogau dros £150,000 yn 2010, a 223 wedi derbyn cyflogau dros £100,000, yn ôl ymchwil Leanne Wood.

Mae cyflogau staff Prifysgol Caerdydd yn cael eu gosod gan bwyllgor annibynnol, meddai’r brifysgol, ac yn debyg i gyflogau prifysgolion eraill yr un maint.

‘Her’

“Mae Llywodraeth San Steffan yn dweud o hyd ein bod ni i gyd yn wynebu’r un her,” meddai Leanne Wood. “Ond dyw’r neges hwnnw yn amlwg ddim wedi cyrraedd y byd academaidd.

“Mae angen adolygiad cynhwysfawr i gyflogau mawr yn y sector gyhoeddus ar fyrder. Dyw hi ddim yn deg bod pobol ar gyflogau llai yn gweld eu safonau byw yn disgyn tra bod cyflogau mawr yn dal i dyfu.”