Mae un o Bwyllgorau’r Cynulliad wedi pleidleisio o blaid Cofnod Cymraeg ar gyfer sesiynau llawn y Cynulliad.

Roedd pleidlais y Pwyllgor Cydraddoldeb yn ddiwrthwynebiad ond ni fu pleidlais ar welliant a fyddai’n golygu fod holl drafodaethau’r Cynulliad – gan gynnwys pwyllgorau – yn ymddangos yn ddwyieithog. Ni fydd y Cofnod Cymraeg yn ymddangos yr un pryd â’r un Saesneg ychwaith.

Bydd Cofnod dwyieithog ar gyfer y sesiynau llawn yn rhan o’r Bil Ieithoedd Swyddogol a fydd yn mynd gerbron aelodau’r Cynulliad. Mae’r Bil yn nodi dyletswyddau’r Cynulliad a Chomisiwn y Cynulliad o ran darparu gwasanaethau dwyieithog.

Dywedodd y Comisiynwr sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg a chyfathrebu ar Gomisiwn y Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas AC, y byddai’n barod i edrych eto ar gael Cofnod Cymraeg ar gyfer holl drafodaethau’r Cynulliad.

Ym mis Mai dywedodd y Pwyllgor Cydraddoldeb y dylai’r Cofnod fod yn gwbl ddwyieithog ar gyfer holl drafodaethau’r Cynulliad. Cwestiynodd bapur y Western Mail y penderfyniad gydag erthygl dudalen flaen a ddywedodd fod cyfieithu holl drafodion y Cynulliad yn “foethusrwydd na allwn ei fforddio.”

Galw ar i’r Cofnod Cymraeg ymddangos yr un pryd â’r un Saesneg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r penderfyniad heddiw ond wedi datgan siom na fydd yr holl drafodion yn Gymraeg, ac na fydd y Cofnod Cymraeg a Saesneg yn cael eu cyhoeddi ar yr un pryd.

Dywed y mudiad fod cyhoeddi dogfen yn y ddwy iaith ar yr un pryd yn egwyddor bwysig sydd wedi ei “hen sefydlu” yng Nghymru, ac y dylai’r Cynulliad ddilyn yr un egwyddor.

“Mae dogfennau ein deddfwrfa yn hollbwysig nid yn unig o safbwynt hawliau moesol pobl i ddefnyddio’r Gymraeg  – ac yn hollbwysig, statws y Gymraeg fel iaith swyddogol – ond hefyd i gorpws iaith y Gymraeg” meddai Ceri Phillips o Gymdeithas yr Iaith.

“Mae teclynnau arlein Google Translate, Cysill ac eraill yn elwa o’r corpws iaith a ddatblygir gan y Cynulliad. Felly, maen nhw’n cael effaith uniongyrchol positif ar ddefnydd yr iaith.

“Mae digon o ymchwil yn profi bod statws iaith leiafrifol yn effeithio’n uniongyrchol ar ei defnydd. Dyna pam mae angen cryfhau’r Bil a’r Cynllun arfaethedig yn bellach.”

Dywedodd y Gymdeithas y byddan nhw’n parhau i ymgyrchu er mwyn sicrhau Cofnod sy’n gwbwl Gymraeg.