Mae S4C wedi dweud mai mater i Gymdeithas Pêl-droed Cymru yw trefn gemau Uwch Gynghrair Cymru, ar ol cwynion gan glybiau am newid amseru gemau.

Ddoe honnodd Clwb Pêl-droed Bangor y gallai penderfyniad i aildrefnu gêm ar gyfer y teledu golli’r bencampwriaeth iddyn nhw.

Fe fydd y gêm allweddol rhwng Bangor a’r Seintiau Newydd yn cael ei chynnal fwy nag wythnos ynghynt na’r trefniant gwreiddiol.

Mae’r newid yn golygu y bydd Bangor yn gorfod chwarae tair gêm allan o bedair oddi cartre’ ar ddechrau ail hanner tymor yr Uwch Gynghrair.

Dywedodd cadeirydd Bangor, Gwynfor Jones wrth Golwg 360, bod y sefyllfa yn “hollol annheg” ac yn “rhoi Bangor dan anfantais”.

Ond dywedodd Geraint Rowlands, Cyfarwyddwr Comisiynu Dros Dro S4C, mai gan Gymdeithas Pêl-droed Cymru oedd y penderfyniad terfynol.

“Pan gafodd S4C ddrafft o’r rhestr gemau ar gyfer ail hanner y tymor yn Uwch Gynghrair Cymru, fe ofynnodd y Sianel yn benodol am gael symud gêm Bangor yn erbyn TNS o benwythnos gêm Cymru v Lloegr (Gwener- Sul, 25-27 Mawrth),” meddai.

“Roeddem yn gwybod y byddai’n gwylwyr am weld y gêm hon gan mai dyma’r ddau dîm ar frig yr adran. Mater i Gymdeithas Pêl-droed Cymru oedd ymateb i’n cais.”

Arian

Roedd Gwynfor Jones hefyd wedi beirniadu cytundeb darlledu’r clybiau gyda S4C gan ddweud nad yw’r arian yn ddigonol.

Yn ôl cadeirydd Bangor, dim ond £600 y tymor y mae clybiau Uwch Gynghrair Cymru yn ei dderbyn gan S4C am ddarlledu gemau byw ac uchafbwyntiau.

“Dydi’r sefyllfa bresennol ddim ei werth o, am  £600 y tymor,” meddai.

Dywedodd S4C nad oedden nhw’n fodlon trafod faint yn union oedd y clybiau’n cael eu talu.

“Mae manylion ein cytundeb gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru yn gyfrinachol am resymau masnachol,” meddai Geraint Rowlands.

“Mater i Gymdeithas Pêl-droed Cymru a’r clybiau yw trafod sut mae unrhyw arian o’r cytundeb darlledu yn cael ei ddyrannu.”