Cwpan Heineken
Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw wedi galw am wahardd cwmnïau alcohol rhag noddi timoedd a chystadleuaeth chwaraeon.
Mae’r adroddiad gan Alcohol Concern Cymru hefyd yn pryderu bod y diwydiant diodydd meddwol yn noddi gwyliau cerddorol.
Yn ôl yr adroddiad, Cymysgedd Afiach?, mae noddi cystadlaethau a gwyliau yn annog pobol ifanc i yfed.
Mae pedwar o bob deg person 15 oed yng Nghymru eisoes yn yfed alcohol bob wythnos, meddai’r elusen.
“Fel arfer mae’r digwyddiadau sy’n cael eu noddi, gan gynnwys cystadlaethau rygbi a gwyliau cerddorol, yn rhai sy’n apelio’n fawr at bobl ifanc,” meddai’r elusen.
“Ac wedi i nawdd gan gwmnïau tybaco gael ei wahardd yn y wlad hon am resymau iechyd, mae’r elusen yn mynnu bod angen mesurau cyffelyb o ran alcohol.”
Heineken a Magners
Dechrau’r mis dywedodd Alcohol Concern Cymru eu bod nhw’n “hynod siomedig” bod cwmni diodydd ymysg noddwyr Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Datgelodd pwyllgor trefnu’r gemau mai Heineken fydd “lager swyddogol” y Gemau Olympaidd.
Mae Heineken hefyd yn noddi Cwpan Heineken, cystadleuaeth rygbi mwyaf Ewrop, ac mae Magners yn noddi Cynghrair Magners, cystadleuaeth rygbi Cymru, Iwerddon, yr Alban a’r Eidal.
“Mae swmp o dystiolaeth bod nawdd a ffurfiau eraill ar farchnata alcohol yn effeithio’n negyddol ar bobol ifanc – ar eu syniadau am beth yw ymddygiad normal wrth yfed, ar yr oedran maen nhw’n dechrau yfed a faint maen nhw’n ei yfed,” meddai Mark Leyshon o Alcohol Concern Cymru.
“Pan mae cwmnïau alcohol yn noddi digwyddiadau, mae’r neges yn cael ei chyfleu bod yfed alcohol yn normal, a hyd yn oed yn angenrheidiol er mwyn cael hwyl a mwynhau’r fath ddigwyddiadau.
“Mae pobl ifanc yng Nghymru yn gweld alcohol yn cael ei farchnata’n gyson, ac ar y cyd â phrisiau isel, lefelau cynyddol o niwed yw’r canlyniad.”
Yr argymhellion
Rheolau llymach am farchnata a hysbysebu alcohol, gan gynnwys rhoi diwedd ar nawdd y diwydiant alcohol i ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon, a diwedd ar noddi rhaglenni neu hysbysebu alcohol ar y teledu neu’r radio lle mae mwy na 10% o’r gwylwyr neu’r gwrandawyr o dan 18 oed
Rhaid i’r rheolau ynglŷn â hyrwyddo a marchnata diodydd alcohol gael eu llunio’n annibynnol, nid gan y diwydiant alcohol .
Dylid gwahardd polisïau prisio sy’n debygol o annog yfed trwm, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.
Pennu lleiafswm pris o 50c am uned o alcohol yw’r ffordd orau i wneud hyn, yn unol ag argymhellion Prif Swyddog Meddygol Cymru.