Canghellor y Trysorlys, George Osborne
Mewn ymweliad â Chymru, mae’r Canghellor George Osborne wedi cyhoeddi y bydd £10m yn cael ei fuddsoddi mewn band llydan yn y gogledd. 

Fe fydd yr arian yma’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y band llydan diweddaraf ym Mhwllheli ac ardaloedd cyfagos. 

Mae’r newydd wedi cael ei groesawu gan y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones, a ddywedodd fod Llywodraeth y Cynulliad wedi lansio polisi economaidd newydd yr haf diwethaf gan osod targed i sicrhau bod band llydan y genhedlaeth nesaf ar gael i bob busnes erbyn canol 2016 a phob cartref erbyn 2020. 

“Mae band llydan cyflym a dibynadwy yn allweddol i gefnogi cymunedau lleol a thyfiant economaidd, ac mae’n rhan allweddol o’n Rhaglen Adnewyddu Economaidd,” meddai Ieuan Wyn Jones. 

“Mae gweinidogion yn Llundain wedi neilltu £530m ar gyfer band llydan ac roedden ni’n benderfynol fod Cymru’n mynd i elwa ohoni – wedi ‘r cwbl mae rhan o’r arian yma wedi cael ei godi gan ffioedd  trwyddedau teledu Cymru.
Croesawu

“Mae’n amlwg felly’n bod ni’n croesawu’r cyfraniad cychwynnol yma i helpu cael band llydan i fwy o gartrefi Cymru,” meddai.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Nick Bourne hefyd wedi croesawu’r cyhoeddiad. 

“Mae’n newyddion da i fusnesau a thrigolion ar draws ardal yma o Gymru,” meddai Nick Bourne. 

“Fe fydd y buddsoddiad cyntaf yma’n cefnogi ymestyniad band llydan cyflym o Bwllheli ac ardaloedd cyfagos gyda llawer mwy i ddod”

“Mae band llydan cyflym yn allweddol i lwyddiant y sector preifat.”