Wrth gyflwyno adroddiad ar yr hyn mae ei lywodraeth wedi cyflawni yn ei blwyddyn gyntaf, pwysleisiodd Carwyn Jones fod ei lywodraeth wedi buddsoddi yn y wlad, sicrhau bod gwasanaeth iechyd cyflymach ac wedi rhoi cefnogaeth i fusnesau bach.

Roedd Carwyn Jones yn cyflwyno adroddiad Rhaglen Lywodraethu er mwyn rhoi’r wybodaeth i bobol fedru barnu a yw’r llywodraeth yn gwneud yr hyn yr oedden nhw wedi addo gwneud, ond mae’r gwrthbleidiau wedi dweud nad oes digon o dargedau yn yr adroddiad er mwyn i bobol allu mesur cynnydd.

“Dyma esiampl arall o ystadegau, addewidion gwag a thargedau coll wedi eu pecynnu at ei gilydd” meddai Aled Roberts AC o’r Democratiaid Rhyddfrydol.

“Agored a thryloyw”

Dywedodd y Prif Weinidog fod “fod yr hinsawdd economaidd ac ariannol yn anodd iawn” ond bod yr adroddiad yn dangos fod y Llywodraeth wedi cyflawni mewn nifer o feysydd, gan gynnwys lleihau amserau aros cleifion, cyflwyno cronfa fuddsoddi gwerth £40m ar gyfer busnesau bach, a chyflwyno peilot llwyddiannus Twf Swyddi Cymru sy’n werth £75m.

Ychwanegodd fod ei lywodraeth “wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw” drwy gyhoeddi’r adroddiad 666 tudalen.

“Drwy gyhoeddi, am y tro cyntaf, y cynnydd rydyn ni wedi’i wneud ym mhob maes, gall pobl farnu ein gwaith a’n hymdrechion i wireddu ein hymrwymiadau. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r dystiolaeth gadarn sydd ei hangen arnom i’n helpu i wneud gwahaniaeth i bobl Cymru.”

Pwysleisiodd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi gwireddu ei huchelgais o greu llwybr 870 milltir o amgylch arfordir Cymru ac wedi rhoi 165 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol ar waith, neu mewn hyfforddiant.

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr, fod yr adroddiad yn un manwl iawn ond bod y “ffigurau wedi cael eu taflu at ei gilydd i roi’r argraff fod llawer yn digwydd, ond mewn gwirionedd pan siaradwch chi gyda phobol ychydig iawn sy’n digwydd ar lawr gwlad.”