Mae anniddigrwydd ar gyfryngau cymdeithasol ar ôl i raglenni radio mwyaf poblogaidd Prydain gynnal dadl ar y Gymraeg.

Ar achlysur ymweliad y fflam Olympaidd â’r dre aeth Jeremy Vine i Fae Colwyn er mwyn darlledu rhaglen ac iddi thema Gymreig.

Yn ogystal â darlledu caneuon gan artistiaid Cymreig ac eitem ar Feibion Glyndŵr trafododd safle’r Gymraeg yn y sector cyhoeddus gydag Aelod Seneddol Mynwy, David Davies, a mam-gu o Dreorci yn y Rhondda, Maureen Boyardi.

Dywedodd David Davies na ddylid “rhagfarnu yn erbyn pobol sydd ddim yn siarad Cymraeg” trwy wneud y Gymraeg yn amod gweithio yn y sector cyhoeddus, tra bod Maureen Boyardi wedi dadlau mai’r Gymraeg yw priod iaith Cymru ac y dylai pawb ei siarad. Nid yw hi’n rhugl ynddi meddai.

Trodd y drafodaeth yn ddadl anhrefnus, ac mae nifer wedi bod yn gofyn ar wefannau pam nad oedd rhywun mwy cymwys wedi ei ddewis i ddadlau o blaid y Gymraeg.

“Newydd glywed y ddadl fwya dibwynt, erchyll ac embarassing erioed ynglŷn â’r Iaith Gymraeg ar Radio 2. #blêr <https://twitter.com/>” meddai Caryl Parry Jones, cyn ychwanegu fod y rhaglen wedi’i hymchwilio’n wael a’i bod yn “Shambles”.

“Gallai cymaint o bobol fod wedi gwneud jobyn gwell” meddai’r gantores a’r cyflwynydd ar Radio Cymru.

Adleisiodd ‘blogdroed’ yr un farn:

“Mam bach, doedd Jeremy Vine methu ffendio person Cymraeg eu hiaith oedd â dadl synhwyrol?!?!”

Honnodd Colin Nosworthy fod cynhyrchwyr rhaglen Jeremy Vine wedi penderfynu “peidio â chynnwys mudiadau iaith er mwyn osgoi dadl synhwyrol.”