Ieuan Wyn Jones
Mae ffrae wedi codi rhwng dwy blaid Llywodraeth Cymru, gydag arweinydd y Blaid yn cyhuddo rhai o fewn y Blaid Lafur o ledu beirniadaeth amdano.

Fe aeth Ieuan Wyn Jones ar raglen deledu neithiwr i gondemnio rhai ACau Llafur am ei bardduo, gan gynnwys briffio newyddiadurwyr yn ei erbyn.

Heddiw, mae papur y Western Mail yn cynnwys dyfyniadau gan bobol sy’n cael eu galw’n wleidyddion Llafur profiadol yn awgrymu eu bod yn siomedig gyda pherfformiad Ieuan Wyn Jones yn swydd y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth.

Yn ôl un dyfyniad dienw, roedd y Dirprwy Brif Weinidog yn cael ei gyhuddo o fod yn “ddolen wan” yn Llywodraeth Cymru’n Un.

‘Angen ateb’

Roedd angen ateb hynny, meddai Ieuan Wyn Jones, wrth y BBC neithiwr. “Dyw’r agwedd yna ddim yn ddigon da a rhaid i ni fwrw ymlaen i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cyflawni tros bobol Cymru.”

Fe bwysleisiodd nad gweinidogion Llafur oedd yn gyfrifol ond fe gyhuddodd Lafurwyr eraill o’i feirniadu’n ddienw.

Roedd hefyd yn pwysleisio ei fod etifeddu problemau mawr pan ddaeth yn gyfrifol am ei adran, gyda gwario ar drafnidiaeth “allan o reolaeth”.

Yn y gorffennol, mae’r gwrthbleidiau hefyd wedi targedu perfformiad Ieuan Wyn Jones.