O heddiw ymlaen, gall siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r gwasanaeth e-bost byd-enwog Gmail yn Gymraeg.

Google yw’r cwmni meddalwedd diweddaraf i ddatblygu meddalwedd am ddim yn Gymraeg, trwy wneud yn siŵr fod pob eitem yn y ddewislen a’r blychau deialog yn Gymraeg ar eu gwasanaeth.

“Mae Google yn canolbwyntio ar sut y gall ein hoffer helpu i ddiogelu ac adfywio ieithoedd lleiafrifol er mwyn eu gwneud yn fwy perthnasol, yn arbennig i’r genhedlaeth ifanc,” meddai Google.

“Rydym wrth ein bodd, felly, fod Gmail ar gael yn Gymraeg – y ddiweddaraf o 57  iaith – gan ein bod yn gwybod bod galw am dechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer defnyddwyr yng Nghymru a thu hwnt.”

Cafodd Gmail ei gyfieithu gan ddefnyddio system Translator Toolkit Google sef system cof cyfieithu soffistigedig yn y cwmwl sy’n cynnwys peiriant cyfieithu peirianyddol Google Translate. Cafodd y gwaith ei reoli gan swyddogion Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac wedyn, Comisiynydd y Gymraeg ar y cyd â Google.

“Pwysig” meddai Comisiynydd

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Mae technoleg gwybodaeth yn rhan ganolog o’n bywydau bob dydd, ac mae’n bwysig felly fod siaradwyr Cymraeg yn gallu defnyddio’r iaith ar-lein. 

“Mae’r ffaith bod Google, cwmni rhyngwladol ac enw cyfarwydd ar draws y byd, wedi penderfynu cynnig Gmail yn Gymraeg yn dangos y pwys y mae cwmnïau rhyngwladol yn ei roi ar ddatblygu technoleg yn Gymraeg, ac mae’n gosod esiampl i gwmnïau eraill, yn ogystal ag i ddefnyddwyr.”